Dafydd Iwan

Dafydd Iwan - Yma O Hyd lyrics

Your rating:

Dwyt ti'm yn cofio Macsen,
Does neb yn ei nabod o;
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd
Yn amser rhy hir I'r co';
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru
Yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri,
A'n gadael yn genedl gyfan
A heddiw: wele ni!

[Chorus]
Ry'n ni yma o hyd,
Ry'n ni yma o hyd,
Er gwaetha pawb a phopeth,
Er gwaetha pawb a phopeth
Ry'n ni yma o hyd.

Chwythed y gwynt o'r Dwyrain,
Rhued y storm o'r môr,
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encôr,
Llifed dagrau'r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas
Ry'n ni'n barod am doriad y wawr!

Cofiwn I Facsen Wledig
Adael ein gwlad yn un darn
A bloeddiwn gerbron y gwledydd
'Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn! '
Er gwaetha pob Dic Sion Dafydd,
Er gwaetha 'rhen Fagi a'I chriw
Byddwn yma hyd ddiwedd amser
A bydd yr iaith Gymraeg yn fyw!
Get this song at:
bol.com
amazon.com

Copyrights:

Author: ?

Composer: ?

Publisher: ?

Details:

Language: Welsh

Share your thoughts

This form is protected by reCAPTCHA and the Google Privacy Policy and Terms of Service apply.

0 Comments found